Inspire Hafan
Croeso i’r Prosiect INSPIRE
BBaCh. Ydych chi am chwilio am gynhyrchion / gwasanaethau newydd i gryfhau eich busnes?
Arloeswyr ac Ymchwilwyr. Ydych chi’n meddwl bod syniad gyda chi ond ddim yn gwybod sut mae holi a yw e’ yn ymarferol?
Entrepreneuriaid. Ydych chi’n dymuno rhedeg eich busnes eich hun ond dim syniad gyda chi ar gyfer busnes hyd yma?
Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i unrhyw beth uchod yna mae’n debyg y gall INSPIRE eich helpu chi.
Bydd INSPIRE yn eich helpu i ddatblygu meddwl creadigol sut mae datblygu eich syniad yn fasnachol.
Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim a bydd yn cynnwys mentora a seminarau sydd â’r nod o ysbrydoli’r ddawn greadigol a’ch helpu chi i ddatblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Mae modd hefyd defnyddio cymhorthion ychwanegol fel desgiau poeth a mentora un ag un yn ystod y rhaglen.
Am ragor o wybodaeth a chymryd rhan mae croeso i chi gysylltu â ni ar inspire@setu.ie ar gyfer cyfranogion o Iwerddon ac inspire@pembrokeshire.gov.uk ar gyfer cyfranogion o Gymru. Dechreuodd y garfan gyntaf o gyfranogion yn y Gwanwyn 2013 a threfnwyd bod yr ail garfan yn dechrau ym mis Medi 2013.